Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

HSC(4)-03-13 papur 5

 

Mark Drakeford AC

Cadeirydd

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

 

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 3NQ

 

15 January 2013

 

 

Annwyl Mr.Drakeford

 

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyfeirio’ch llythyr, dyddiedig 5 Rhagfyr 2012, ynghylch cynnwys ac amserlen ystadegau swyddogol iechyd ataf.

 

Rwyf yn croesawu sylwadau’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch pa mor aml y mae’r ystadegau swyddogol ar gael, a pha mor hygyrch ydynt. Byddaf yn rhoi sylw i’r sylwadau hyn wrth i mi ystyried ymatebion yr ymgynghoriad yn gyfan gwbl.  

 

Yn y ddogfen ymgynghori, fe welwch mai’r cynnig o dan sylw yw rhyddhau mwy o amser ystadegwyr Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwaith o ddadansoddi ac adrodd ar ymchwil yn ôl pwnc yn cael sylw mwy ystyriol a holistig. Fodd bynnag, er na fydd y datganiadau ar ystadegau swyddogol yn cael eu cyhoeddi mor aml, rydym yn ceisio gwneud hyn mewn modd sy’n sicrhau bod yr wybodaeth reoli yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd o leiaf mor aml ag yn y gorffennol.

 

Mantais arall y cynnig hwn yw’r potensial i sicrhau bod gwybodaeth reoli yn cyrraedd y cyhoedd cyn gynted ag sy’n bosibl gan sicrhau bod y ddadl gyhoeddus yn defnyddio gwybodaeth o’r dystiolaeth fwyaf addas a chyfoes. O ganlyniad i hyn, yn achos gwybodaeth am adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, bydd yr wybodaeth ar gael 10-15 diwrnod ynghynt ac er nad yw’r broses sicrhau ansawdd mor fanwl â’r un ar gyfer yr Ystadegau Gwladol credwn ei bod o ansawdd sy’n ddigon da i’w chyhoeddi.

Mae croeso ichi gyflwyno unrhyw sylwadau manwl pellach i’r ymgynghoriad - byddem yn ddiolchgar amdanynt.  Hefyd, rydym yn croesawu sylwadau ac adborth gan bobl sy’n defnyddio ein hystadegau ar unrhyw adeg. Am hynny, ni ddylech ystyried mai yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn unig y dylid eu hanfon.

Yn gywir

Glyn Jones

Prif Ystadegydd Dros Dro